Gofalu am eich Gemwaith
Ynglŷn â'r deunyddiau:
Arian: Rwy'n defnyddio arian Sterling – mae Sterling yn 92.5% o arian pur.
Pres a Chopr: Rwy'n defnyddio pres a chopr solet.
Aur ‘wedi’i lenwi’ (Gold Filled): Mae Aur wedi’i lenwi neu ‘gold filled’ yn haenen o aur wedi'i fondio o dan bwysedd i fetel arall. Mae’r aur o leiaf 5% o gyfanswm pwysau'r metel, ac mae'n llawer mwy gwerthfawr nag eitemau eurplat gan nad yw'r aur yn dod i ffwrdd dros amser. Dwi’n defnyddio aur wedi’i lenwi 12k.
Dalen Aur: Mae dalen aur 24k 25 gwaith yn fwy trwchus na ffoil aur, a gellir ei thoddi ar ben arian fel addurn (techneg Keum Boo).
Glanhau'ch gemwaith:
Bydd pob un o'r metelau uchod yn tarneisio dros amser, neu oherwydd lleithder neu ddŵr.
Gallwch brynu polish metel o'r archfarchnad i gadw'ch gemwaith yn lân- er enghraifft Brasso neu Silvo. Mae rhai ryseitiau cartref ar gyfer glanhau pres a gemwaith arian ar gael ar-lein hefyd.

