top of page

Nadolig 2022

Bydd y siop ar agor trwy gydol mis Rhagfyr, a bydd pob eitem yn cael ei bostio gan defnyddio gwasanaeth Dosbarth Cyntaf y Post Brenhinol. Ni allaf warantu y bydd unrhyw archebion a wneir ar ôl 16.12.2022 yn cyrraedd cyn 24ain o Ragfyr.

Mae Tocynnau Anrheg ar gael, a gallaf bostio’r rhain atoch, neu e-bostio nhw fel ffeil ddigidol.

ARCHEBION ARDAL ABERYSTWYTH: Y dyddiad olaf ar gyfer archebion lleol yw dydd Mercher 21ain o Ragfyr. Mae croeso i chi gasglu eich archeb, neu rwy'n hapus i ddosbarthu archebion o fewn ardal  Aberystwyth. Dewiswch ‘Casglu’ wrth dalu am eich eitem, ac fe wna i gysylltu i drefnu.​

Os ydych chi'n prynu anrheg i rywun ac yr hoffech i mi ei bostio’n uniongyrchol atynt, nodwch enw a chyfeiriad y person yn y blwch 'shipping', ac ychwanegwch unrhyw negeseuon yn y blwch neges/message'. Yna, byddaf yn cynnwys eich neges mewn carden gyda'r eitem.

Diolch o galon am eich cefnogaeth eleni – Nadolig Llawen i chi i gyd.

bottom of page