top of page

Dwi wedi dwlu ar emwaith erioed. Treuliais lawer o amser fel plentyn yn casglu darnau bach o drysor; gleiniau (beads), botymau a phapur sgleiniog, i’w troi’n fwclisau neu fodrwyau. Cefais offer i wneud gemwaith pan oeddwn yn 17 oed, ac fe ddysgais dechnegau creu gemwaith a thrin metel wrth astudio dylunio yn y coleg. Gadewais y Brifysgol â gradd BA Anrhydedd mewn Gemwaith a Thrin Metel yn 2000.

Rwy’n gwneud y rhan fwyaf o’m gemwaith o arian a phres. Mae rhywfaint o batrwm ar wyneb bob un o’m cynlluniau, ac rwy’n gwneud hynny naill ai drwy stampio,  morthwylio neu gwasgnodi’r metel. Dydw i ddim yn rhy hoff o ddarlunio, felly mae’r rhan fwyaf o’m syniadau yn esblygu wrth i mi arbrofi â darnau metel sgrap nes creu rhywbeth sy’n fy modloni.

Rwy’n dal i fwynhau’r her o greu rhywbeth newydd allan o hen wrthrychau rwy’n dod ar eu traws, ac weithiau fe welwch ddarnau unigryw yn y siop o fetelau wedi’u hailgylchu neu gan ddefnyddio darnau bach addurniadol rwy’ wedi’u casglu.

 

Rwyf yn defnyddio Eco Arian ac Eco Aur, sef metalau werthfawr sydd wedi'i ailgychu 100%. Mae o leiaf 90% o'r ddeunyddau pacio y defnyddiwyd yn gallu cael eu hailgylchu.

  • Facebook - Grey Circle
  • Instagram - Grey Circle
bottom of page